Sunday, 20 May 2012
Home Newyddion - News Campio a Chanwio yn Nant Gwynant Camping and Canoeing
Campio a Chanwio yn Nant Gwynant Camping and Canoeing
Campio a Chanwio yn Nant Gwynant Camping and Canoeing Print E-mail

Bl6 yn campio a chanwio yn Nant Gwynant - gobeithio y bydd y tywydd yn gwella!

Pnawn Mawrth

Pacio'r bws mini ac i ffwrdd a ni!  Stopio yn nhý mam Miss W am baned, gosod y canws ar ben fan Pete a Nant Gwynant amdani! Pawb mewn hwyliau da wrth gyrraedd a gosod y pebyll mewn llecyn braf ar lan y llyn.

Nos Fawrth

Coginio cyri cyw iâr a reis, a pharatoi am y bore - gwely cynnar?  Eithaf... Wir yr!

Dydd Mercher

Diwrnod llawn o badlo canws yr ysgol - a chael gwisgo'r siacedi arnofio a'r helmedi am y tro cyntaf - pawb yn teimlo'n smart iawn!  Padlo caled ar draws y llyn wedi brecwast braf o wyau, bacwn, selsig, bara saim a ffa pob.  Lyfli!

Nos Fercher

Storm!  Gwynt a glaw, a mwy o wynt.  Swatio yn y pebyll a cheisio cysgu - noson oer.

Dydd Iau

Pete ac Eryl yn coginio'r brecwast i ni heddiw - chwarae teg, gan ein bod i gyd wedi blino'n lân!  Bore o geufadu o'n blaenau - padlo caled eto, gan geisio meistroli'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer llwyddo i basio'r "One Star" Ceufadu a Chanwio.

Pnawn Iau

Prawf theori yn y babell fwyd, a chlywed ein bod i gyd wedi pasio - gwych iawn, iawn.  Pacio pob dim cyn cychwyn am adre - a'r bws mini yn gwegian dan straen yr holl bethau!  Cyrraedd Rhoscolyn a chael croeso mawr gan bawb - braf gweld ein rhieni, a braf meddwl bod gwely esmwyth a chynnes yn ein disgwyl adref!   Bore fory?   Sgio!!!! Eryl a Pete - 'da chi'n SÊR!!! Diolch o galon i chi a'r Urdd!

 

 

 

 

 

 

 

mwy o luniau / more images

 

Yr 6 camping and canoeing at Nant Gwynant - let's hope the weather improves!

Tuesday afternoon

Pack the mini bws and off we go, after a brief stop at Miss W's parents' house for a cup of tea and load the canoes onto Pete's van.  Nant Gwynant here we come!  Everyone in fine spirits as we set up camp by the water's edge. 

Tuesday eve

Cooked a chicken curry with rice and got ready for bed - early to bed?   What do you think!!!

Wednesday

A full day of paddling on the lake with the school's new canoes - wearing the brand new buoyancy aids and helmets - looking smart!!!  Hard paddling on the lake after cooking our own breakfast of bacon, eggs, sausage, fried bread and beans of course!   Lovely!

Wednesday Night

Storm!  Wind and rain and even more wind!  Trying to keep warm in tents and attempting sleep - a cold night.

Thursday

Pete and Eryl cooked our breakfast this morning as we were very tired.  A morning of serious kayaking - attempting to master the basic skills to pass our One Star BCU Canoeing and Kayaking Certificates.

Thursday pm

A theory test in the communal tent, then the good news - everyone passed their One Star!  Excellent!  Packing the bus took a long time - it was fully loaded on the way home between all our wet stuff and the new kit!   Arrived at Rhoscolyn to a warm welcome from parents - and the happy thought that a warm, comfortable bed was waiting for us at home!  Tomorrow morning?  Skiing!!!!   Pete and Eryl - you're both absolute stars - THANK YOU!

Llyn Gwynant

 

 

                       Lluniau flickr Ysgol Rhoscolyn Photographs