Sunday, 20 May 2012
Home Newyddion - News Eisteddfod Cylch Alaw Cybi / Urdd 7.3.09
Eisteddfod Cylch Alaw Cybi / Urdd 7.3.09
Eisteddfod Cylch Alaw Cybi / Urdd 7.3.09 Print E-mail

Llongyfarchiadau mawr iawn i bawb a fu'n cystadlu heddiw.  Dyma'r canlyniadau i'r rhai ohonoch oedd yn gorfod gadael cyn y cyhoeddiadau:

Rh. A. Parry - 1af Dawnsio Disgo Unigol, 2il Llefaru Bl 5 a 6

Parti Canu - dim llwyfan yn y Sir y tro yma

Grwp Dawnsio Creadigol - 1af

Diolch o galon i'r rhieni, teuluoedd a ffrindiau a ddaeth i'n cefnogi heddiw - cawsom ddiwrnod arbennig o dda, diolch ichi am eich cefnogaeth! Hoffai Ysgol Rhoscolyn ddiolch yn arbennig i Miss Sara Wyn Roberts a Mr Gareth Jones am yr oriau a dreuliwyd gyda'r plant yn paratoi ac ymarfer yn drwyadl.

Diolch i'r Urdd am drefnu Eisteddfod dda - cafodd y plant ddiwrnod gwych!

 

Congratulations to all who competed today, here are the results:

Rh. A. Parry 1st Disco Dancing, 2nd Reciting Yrs 5 and 6

Parti Canu - no stage at County Eisteddfod this time

Creative Dance group - 1st

 

Many thanks to all the parents, families and well wishers who supported again today - we had a great time and couldn't have done it without you! Ysgol Rhoscolyn would also like to thank Miss Sara Wyn Roberts and Mr Gareth Jones for the many hours spent preparing and rehearsing the children to achieve such performances today.

 

 

Cafwyd tair o Rhoscolyn yn cystadlu yn rhagbrawf Unawd Unigol i ddisgyblion Bl 5 a 6, "Ehedydd Bach" eleni, dyma rai o sylwadau canmoladwy'r beirniad:-

"Llais tlws a'r donyddiaeth yn glir..." "Llais hynod o dlws, roedd y donyddiaeth yn sicr gennyt a'r nodau uchel yn gyfforddus iawn.  Perfformiad addawol iawn."

"Roedd y rhythm yn gywir, da iawn ti am gystadlu a phob hwyl i'r dyfodol."

 

 Bu chwech o ddisgyblion Bl 5 a 6 yn cystadlu yn y gystadleuaeth llefaru Bl 5 a 6 "Un Funud Fach" :-

"Perfformiad da gyda llais cryf ar y dechrau.  Dangos y gwahaniaet rhwng yr eisteddar y soffa a gorfod mynd i siopa yn wych.  Mae dy ynganu yn dda i lefaru felly dalia ati!"

"Dechrau ardderchog. Dy lais / gorff / wyneb yn dangos dy fod wedi ymlacio fel cymeriad.  Roeddwn yn hoff iawn o'r newid wrth i Mam dy symud ac yna ar ddiwedd y darn yn ôl i fod wedi ymlacio.  Mae gennyt hyder o flaen cynulleidfa."

"Dechrau da iawn yn dangos fod y cymeriad yn ymlacio, a wedyn dod yn ôl i'r un llais ar y diwedd.  Da iawn chdi.  Dalia ati."

"Dechrau bywiog a dy wên yn dangos hapusrwydd y plentyn wrth wylio'r teledu, yna dy newid wrth i'r fam ddod i fewn. Diweddglo cryf i berfformaid da.  Dal ati i lefaru."

"Perfformiad hyderus gyda gosteg dy lais ac ystumiau dy wyneb yn dangos teimladau y cymeriad.  Mae gen ti dalent mewn perfformio.  Caria ymlaen i lefaru.  Fe ddaw dy ddydd."

 

Dwy ddewr fu'n cystadlu yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol Bl 3 a 4:-

 "Geirio yn glir a phendant...Roeddet ti'n dweud y stori yn dda... Roedd dy ddiweddglo yn dda a chadarn."

"Llefaru'n glir a phendant.  Dechrau da i'r darn.  Diolch iti am ddechrau'r gystadleuaeth... Da iawn chdi a dalia ati gyda dy lefaru."

 

Bu pump o blant Blwyddyn 2 yn cystadlu yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol Bl 2 ac Iau, "Sblash!":-

"Cychwyn eitha effeithiol... Perfformiad eitha cynnil a chanmoladwy."  "Llais eitha clir a geirio'n eglur..."   "Cawsom lais clir ac eglur.  Roedd y perfformiad yn ystyrlon a diweddglo eitha effeithiol.  Diolch."    "Llais clir a stori fach yn cael ei hadrodd yn eitha ystyrlon.  Roedd y diwedd yn eitha effeithiol."   "Cafwyd gwên annwyl ar y diwedd."

 

Daeth y grwp Dawnsio Creadigol, "Ffair Borth" yn gyntaf gyda "defnydd da o'r llwyfan a cherddoriaeth addas oedd yn creu awyrgylch diddorol iawn o'r cychwyn.  Braf gweld cymaint yn cystadlu.  Perfformiad egniol a hyderus, roedd pawb wedi cyfrannu cant y cant. Roedd y bechgyn yn arbennig o dda!!!  Da iawn pawb."

 

Three Year 5 and 6 individuals competed in the Individual Singing competition, "Ehedydd Bach", and the positive comments received are as follows...

"An attractive voice with good knowledge of the tone and intonation..."

"An extrememly pleasing voice...the high notes were reached without any difficulty...a promising performance."

"The rhythm was correct throughout... good luck for the future!"

 

 Six individuals competed in the individual reciting competition for Years 5 and 6 "Un Funud Fach" (One small moment):-

"A very good start, clearly showing that the character was relaxing andthen repeating the same voice at the end..Well done!  Keep reciting!"

"A confident performance, the banns and your facial expressions showed how the character felt...You have a talent for performing... Keep on reciting... Your day will come!"

"A lively start, your smile showed the character's happiness whilst watching tv... A strong ending to a good performance..."

"An excellent start... I liked your expressions and the way you felt when Mum made you move, and then your happiness in relaxing on the sofa at the end.  You're confident in front of an audience."

 "A good performance with a strong voice.. you showed the differences between having to go shopping and sitting on the sofa excellently... your pronunciation is good and well suited to reciting - keep it up!"

 

 Two brave individuals took part in the Year 3 and 4 reciting competition:-

"Clear and definite reciting... A good start to the piece...thank you for being the first to recite today, well done and keep reciting!"

"Clear and articulate, you were postive throughout... you recited the story well,  your ending was clear and strong."

 

Five brave Year 2 pupils took part in "Splash!"  the recital piece for Years 1 and 2:-

"A clear voice and a little story being expressed with meaning..."  " An endearing smile was had at the end of you performance..."   "A clear and lucid voice, thank you for a meaningful performance..."  "Clear pronunciation throughout..."   "A fairly effective start and a praiseworthy performance!"

 

The Creative Dance Group came 1st with "Ffair Borth" (Menai Bridge Fair) with " good use of the whole stage and suitable music creating an interedting atmosphere from the start.  It was good to see so many children in the group.  An energetic and confident performance, everyone contributed one hundred percent.  The boys were especially good!!!  Well done everyone!"

 

 

                       Lluniau flickr Ysgol Rhoscolyn Photographs