Sunday, 20 May 2012
Home Newyddion - News Newyddlen / Newsletter 4
Newyddlen / Newsletter 4
Newyddlen / Newsletter 4 Print E-mail

Newyddlen Ysgol Rhoscolyn # 4 Chwefror 09

 

Llyfrau i'r Llyfrgell           Diolch o galon am gefnogi ein Ffair Nadolig, bellach rydym wedi derbyn gwerth £1,200 o lyfrau newydd i'n llyfrgell ac rydym yn gwneud paratoadau ar gyfer eu benthyca i blant.

 

Croeso'n ol Mrs Helen Jones i Blwyddyn 1 a 2 yn dilyn genedigaeth eich mab, er y byddwch yn ein gadael eto ar gyfnod mamolaeth eich ail blentyn.  Bydd Miss Catherine Tuck yn cadw cysylltiad hefo Bl 1 a 2 am ddau ddiwrnod yr wythnos am gyfnod, ac yna'n dychwelyd atynt am gyfnod estynedig.

 

Diolch yn fawr i Mrs Dawn Burton am ei gwaith caled yn glanhau'r ysgol - bydd colled mawr ar ei hol.

 

Gala Nofio             Rydym yn hynod falch o'n llwyddiant yng Ngala Nofio yr Urdd yng Nghaerdydd.  Wedi iddi hedfan i lawr i'r brifddinas ac aros yng ngwersyll yr Urdd, Caerdydd, daethom yn seithfed trwy Gymru gyfan - gwych!

Gala Nofio 2         Mae enwau gerbron ar gyfer Gala Nofio Ysgolion Cynradd y dalgylch Dydd Mawrth, Mawrth 17fed. Pob lwc!

 

Gymnasteg  - Llwyddiant unwaith yn rhagor!

Daethom yn gyntaf drwy Gogledd-Dwyrain Cymru yn ddiweddar mewn cystadleuaeth gymnasteg - nawr rydym yn paratoi ar gyfer cystadlu yng Nghaerdydd.  Gwych!

 

Offer Chwarae Mawr

Mae'r aros mawr bron ar ben - daw'r cwmni Dydd Llun nesaf i osod yr offer chwarae newydd yn eu lle - llong fawr hir, tren bach, tai bychan ffram A, bariau mwncis, pont deiars a gasibos cysgodol.   Fedra ni ddim disgwyl!

 

Bws Mini     Rydym wedi archebu bws mini newydd sbon (17 sedd) gan gwmni Ford, Llangefni.  Daw inni yn fuan ym mis Mawrth - mi fydd yna hen grwydro wedyn!  Hoffwn ddiolch o galon am gael defnyddio Bws Ieuenctid Ynys Mon, ac yn enwedig i Mrs Nerys Naf Parry am ei charedigrwydd a'i sgiliau dreifio tra'n cludo plant Rhoscolyn o le i le.  Mawr ddiolch!

 

Sioe Ffasiynnau Fat Face - rydym yn addo ceisio gorffen cyn y rygbi!

Mae'r modelau yn barod, mae dilladau Fat Face yn barod, mae nifer o docynnau wedi eu gwerthu yn barod - dewch yn llu gyda'r teulu a'ch ffrindiau i fwynhau gwledd ffasiynnol rhwng 6 ac 8 yfory, 27ain o Chwefror.

 

 

 

 

Noson i Ddathlu Gwyl Dewi 4.3.09

Beth am ddod draw rhwng 6 ac 8 i gael powlenaid o gawl cartref, bara brith a chwmi Casey Jones a'i ffrindiau.  Rydym wedi gwahodd Mr Gareth Hayhoe yn ol atom i arwain y dawnsio gwerin - dewch am noson hwyliog o sbort!

 

Diwrnod y Llyfr 5.3.09

Dewch i'r ysgol wedi gwisgo i fyny fel eich hoff gymeriad allan o lyfr neu fel mor-leidr!  Thema'r dydd fydd Môr Ladron, a ceir helyntion Barti Ddu, yr Hwyl Long Fawr, Treasure Island a llawer mwy!  Rydym wedi gwahodd ein Llywodraethwyr i ddod i'r ysgol i ddarllen i'r plant, a chawn chwarae yn y llong newydd ar yr iard! Mae'n debygol hefyd y byddwn yn chwifio fflag arbennig o'r mast o flaen yr ysgol i ddathlu!  

Cofiwch am Ffair Lyfrau Usborne yn y neuadd o 3 o'r gloch ymlaen - cyfle gwych i brynu llyfr i'w fwynhau adref!

 

 

 

 


 

 

The Newsletter for Ysgol Rhoscolyn # 4 February 09

 

Library Books       Thank you so much for supporting our Christmas Fair, we've recently received £1,200 of reference books for our school library, and we're making preparations in order for children to borrow them!

 

Welcome back Mrs Helen Jones to Years 1 and 2 following the birth of your son, although we have to say goodbye to you again as you will shortly be on maternity leave with your second child.  Miss Catherine Tuck will be keeping in touch with Years 1 and 2 for two days per week for a brief period, and then return to the class for an extended period.

 

Many, many thanks to Mrs Dawn Burton for her hard work at Ysgol Rhoscolyn - she will be missed by all, as a friend and colleague.

 

Swimming Gala                We're exceptionally proud of our  success at the Urdd's Gala in Cardiff recently.  Having flown down to the capital and staying over at the new Urdd Centre, we came seventh throughout the whole of Wales in our race - excellent!

Swimming Gala 2            Names have been put forward by children wishing to compete in the Primary Schools' Gala on Tuesday, 17th March at Holyhead Leisure Centre.  Good luck!

 

Gymnastics  - C.R. does it again!

Victorious once again throughout North West Wales recently in a gymnastics competition - we're now preparing to compete in Cardiff.  Well done!  We're proud of you!

 

Play Equipment    The long wait is nearly over - on Monday the company begin installing our new play equipment, namely a longboat, train and carriage, A frame houses, monkey bars, tyre bridge and gazebos for shelter.  We simply can't wait any longer!

 

Mini Bus      We've ordered a brand new (17 seater) mini bus from Ford, Llangefni and it should arrive at Rhoscolyn early March - we're planning lots of extra curricular activities!  We'd like to take the opportunity to thank Anglesey's Youth team for the loan of their mini bus, and special thanks goes to Mrs Nerys Haf Parry for her kindness, generosity and driving skills whilst transporting our children to and from activities.  Many thanks!

 

Fat Face Fashion Show - we promise to try and finish in time for the rugby!

The top models are ready, even our supermodels are ready, the Fat face clothes are ready, a number of tickets have already been sold - all we need now is for families and friends to come and enjoy a wealth of fashion between 6 and 8pm, tomorrow, Friday 27th February!

 

 

 

Celebrating St David's 4.3.09   Why not come to Rhoscolyn between 6 and 8pm on Wednesday 4th March to enjoy a bowl of homemade leek and potato soup and bara brith, with music by Casey Jones and friends.  We've invited Mr Gareth Hayhoe back to organise the folk dancing - so come over, join in and have fun!  Tickets available from school office, book early to avoid disappointment!

 

World Book Day 5.3.09             Come to school dressed up as your favourite book character or a pirate!!  Our theme for World Book Day is PIRATES - hear stories about Barti Ddu, extracts from Treasure Island and lots more!  We've invited out Governors to school for the day to read to our children, and we can play in our brand new longboat too!  It's highly probable that a skull and crossbones flag will fly over Rhoscolyn on the day - Ooh-aar me laddies!  Aren't pirates fantastic!  Parents and children are invited to the Usborne Book Fair in the hall at 3pm - a great chance to buy a book to enjoy at home and support school at the same time.

 

 

                       Lluniau flickr Ysgol Rhoscolyn Photographs