Hen Hanes Ysgol Rhoscolyn gan y diweddar Brifathro Mr. O. G. Roberts Saif yr hen ysgol ar y ffordd rhwng Pontrhydybont a Rhoscolyn. Ty annedd yw ers blynyddoedd bellach. Sefydlwyd ac adeiladwyd yr ysgol gan J. Hampton Lewis, uchelwr a drigai ym Mhlas Bodior,yn y flwyddyn 1846. Ef hefyd a fu'n gyfrifol am ei dodrefnu. Arolygwyd yr ysgol gan un o aelodau Comisiwn "Brâd y Llyfrau Gleision" ym mis Tachwedd, tri mis ar ôl ei chychwyniad. Roedd nifer y bechgyn a'r merched ynddi bron yn gyfartal, yn gwneud cyfanswm o hanner cant. Talent geiniog yr wythnos am y fraint o gael eu haddysgu ynddi. Saith o'r plant a ddarllenai yn rhugl, gyda rhyw ddwson yn gallu gwneud Rhifyddeg yn weddol dda. Ond teg dweud mai ar ddydd yr arolygiad, dau ddeg wyth o'r plant yn unig oedd yn bresennol. Enw swyddog yr ysgol oedd "Rhoscolyn Charity School", ac roedd yn hollol rhydd ac anenwadol. Dywed Adroddiad 1847 mai un athro yn unig oedd yn yr ysgol. Ni dderbyniodd unrhyw hyfforddiant fel athro, ond roedd wedi dysgu cynllun "private adventure schools" ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Canmolai'r archwiliwr ei ddawn - yn y dosbarth darllen, er enghraifft, dehonglai'r brawddegau "as they are read", a holai'r plant yn drwyadl ar ddiwedd y wers. Dim rhyfedd felly i'r dyn pwysig ddyfarnu fod cynnydd y plant yn dda a'r ddisgyblaeth yn rhagorol. Enw yr athro cyntaf hwn oedd Mr. Owen Roberts, mab i Sion Rhobert Lewis, a brawd Robert Roberts yr Almanaciwr. Bu'n athro yn yr ysgol am 35 mlynedd hyd 1881, ond yn ôl llyfr cofnodion cyntaf yr ysgol a ddechreuwyd ym mis Gorffennaf 1879, dywedir fod yr ysgol wedi bod ar gau am gryn dipyn cyn y dyddiad hwnnw. Yn ôl Adroddiad 1847 tua £20 y flwyddyn oedd ei gyflog, ond roedd hefyd bethau y gaalwem ni heddiw yn "perks" ynghlwm wrth y swydd. Gwnaethpwyd cytundeb rhyngddo a J. Hampton Lewis; cawsai Owen Roberts dy i fyw ynddo fel ysgolfeistr, sef Lodge Bodior, gyda chwe mis o rybudd i ymadael pe gadawsai y swydd. Rhoddwyd caniatad hefyd i'r athro droi buwch i bori i'r cae gyferbyn a'r Lodge, ac hefyd i hel grûg ac eithin at gynneu tân - "but not in quantities for general firing". Ond roedd hefyd yn gorfod bod yn rhyw fath o was bach i'r uchelwr. Roedd yn ofynnol iddo fo, neu ei wraig a'i blant, agor y giât i bobl oedd yn mynd a dod i'r plasdy, ar gefn ceffyl neu mewn cerbyd. Ac i goroni'r cwbl rhaid hefyd oedd iddo achwyn am bawb a gerddai ar y ffordd o'r Lodge i'r Plas heb ganiatad.
Rhoscolyn Charity School (Yr Hen Ysgol) Lodge Bodior Ychydig iawn o hanes yr ysgol rhwng 1846 ac 1871 sydd wedi ei gofnodi. Or ar 23ain Chwefror, 1871, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng nghyntedd Eglwys Rhoscolyn, ac yn ddiweddarach yn yr ysgol ei hun. Erbyn hyn roedd Deddf Addysg 1870 yn gyfraith gwlad. Llywydd y cyfarfod oedd y Rheithor, y Parch. T. Hughes Jones. Penderfynwyd yn unfrydol beidio a ffurfio "School Board" yn ôl y ddeddf, gan fod y trethi yn barod yn llethol. Diolchwyd i Major Hampton Lewis a'r teulu am eu diddordeb yn addysg plant y plwyf ers 1845. Rhoddwyd diolch arbennig i Miss Hampton Lewis am noddi yr ysgol a'r drafferth a gymerodd i arolygu'r ysgol am flynyddoedd lawer. Ond wrth gwrs, diwedd y gân yw y geiniog. Gofynnwyd i'r teulu, trwy y Rheithor, a fuasent mor garedig a dal i roi cymorth ariannol i gadw'r ysgol yn ei blaen i'r dyfodol. I gloi y drafodaeth gofynnwyd i'r Anrhydeddus W. O. Stanley, A.S., Capt. a Mrs. Edmund Verney, yr Arglwydd Boston a thirfeddianwyr eraill y plwyf roi eu cymorth hefyd. Llofnodwyd y cais i'r bonheddwyr gan bedwar ar hugain o drigolion y plwyf. Ond yn ôl pob golwg ofer a fu'r cais. Erbyn Gorffennaf 1879 galwyd yr ysgol yn "Rhoscolyn Board School". Nid oes sicrwydd pryd daeth y newid, ond o'r flwyddyn yma dechreuwyd llyfrau cofnodion yr ysgol. Ym mis Ionawr 1880 gwnaethpwyd cytundeb eto rhwng teulu Bodior, Cyrnol Thomas Hampton Lewis erbyn hyn, a Bwrdd yr Ysgol i ddalu y swm o bum swllt y flwyddyn am dair blynedd fel rhent am yr adeilad. Fel diweddglo, daeth Evan Charles Davies, "athro trwyddedig", yn brifathro ym mis Gorffennaf 1879. Ffaith diddorol yw fod merch iddo, Miss Sally Davies, yn dal i fyw mewn oedran têg yn Nhywyn Capel. Yn y llyfr cofnodion dywed fod yr ysgol wedi bod ar gau am amser hir cyn ei ddyfodiad ef i'r swydd, ac wedi ei hesgeuluso yn y cyfamser. Gresyn nad oes dim yn aros am helynt yr ysgol rhwng 1871-79. Rhagfyr 1972. 
Rhoscolyn Council School, officially opened Aug 31st 1937 
Presented to the Local Managers of Thomas Breese, Pennaeth/Headteacher 1886 - 1924 Rhoscolyn Council School by T. H. Breese Esq. Headmaster Seated left to right Robert William Esq (Correspondent), G S Owen Esq (Chairman), Miss E R Jones Standing Captain William Parry Jones, Rev. J H Williams, (J) Roberts Esq Ysgol Rhoscolyn's history by Mr. O. G. Roberts, late Headmaster of Rhoscolyn School
The old school was built in 1846, beside the roadway from Four Mile Bridge, which passes through the Bodior Estate and on to Rhoscolyn. The old building has now been converted to a residential dwelling. Mr J. Hampton Lewis, a wealthy landowner resided at Bodior, know for his generosity towards all charitable causes locally, it was he who gave the land, financed the building and furnishments to establish the school. The school was inspected by a member of the Treachery of the Blue Books Commission in October, just three months after its opening. The number of boys and girls at the school was about equal, making a total of fifty pupils. They paid one penny a week for the privilege of receiving their education there. Seven of the children were fluent readers, with approximately a dozen being able to undertake Arithmetic fairly well. It is fair to say that on the day of the inspection, only twenty-eight of the children were present. The official name given to the school was Rhoscolyn Charity School, and it was entirely free of religious persuasion. According to the 1847 Report there was only one teacher at the school. He had not received any training as a teacher, but had taught the private adventure schools scheme for over thirty years. The inspector praised his ability - in the reading class, for example, he interpreted sentences "as they are read", and questioned the children thoroughly at the end of the lesson. Little wonder that the important inspector decreed the children's progress good and discipline exemplary.
The name of this first teacher was Mr. Owen Roberts, son of Sion Rhobert Lewis, and brother to Robert Roberts, the Almanacer. He was a teacher at the school for 35 years until 1881, but according to the school's first record book, started in July 1879, it states that the school had been closed for quite a while at that date. According to the 1847 Report, his annual salary was approximately £20, but there were certain perks that came with the job. An agreement was reached between him and J. Hampton Lewis; that Owen Roberts would receive a house to live in as schoolmaster, namely Bodior Lodge, with six months notice to leave should he leave his post. Permission was granted for the schoolmaster to turn a cow to pasture in the field opposite the Lodge, and collect heather and gorse to light fires "but not in quantities for general firing". But he also had to be a servant to the landowner. It was requisite for him, or his wife and children to open the gate for people coming to and from the main house on horseback or carriage. In addition, he was required to report everyone who walked along the road from the Lodge to the House without permission.
Very little history between 1846 and 1871 has been recorded. On February 23rd, 1871, the first public meeting took place in the foyer of Rhoscolyn Church, and later at the school itself. Now in 1870 the Education Act was the law of the land. The chairperson at the meeting was the Rector, the Reverend T. Hughes Jones. It was decided, unanimously not to form a School Board according to the Act, as the taxes were already stifling. Major Hampton Lewis and his family were thanked for their interest in the education of the parish children since 1845. Special thanks were given to Miss Hampton Lewis for sponsoring the school and the trouble taken to inspect the school over numerous years. But, of course, money is paramount. The family were asked, through the Rector if they would again be generous and to continue to support the school financially. To close the proceedings, the Hon. W. O. Stanley, M.P., Captain and Mrs Edmund Verney, Lord Boston and other wealthy parish landowners would be asked to pledge their financial report. The appeal to the gentry was signed by twenty four villagers. But it appears the appeal fell on deaf ears. By July 1879, the school became known as Rhoscolyn Board School. It is not clear when the change took place, but school record books commence from this year. In January 1880 another agreement was made between the Bodior family, Thomas Hampton Lewis by now Colonel, and the School Board to pay the sum of five shillings a year for three years as rent for the building.
In conclusion, Evan Charles Davies, a licensed teacher became Headmaster in July 1879. An interesting fact is that his daughter, Miss Sally Davies, now in advanced years, still lives at Tywyn Capel Residential Home. The Minutes state that the school was closed for a long time prior to his arrival, and apparently in the meantime had been neglected. It is a shame that there are no accounts of the school's exploits between 1871-79. December 1972.
|